- 專業(yè)概況
- 所屬院系
- 中國學生入學要求
- 課程信息
專業(yè)概況
在這里學什么? **Pam astudio’r BA Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi yn Aberystwyth?**- Bydd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn dy dywys i fyd creadigol mewn lleoliad heb ei ail. Ar lan y m?r yng Ngheredigion, yng nghalon Cymru, byddi’n rhan o gymuned gyfeillgar, eang ei gorwelion.- Mae holl staff academaidd yr Adran yn ysgolheigion sy’n gwneud ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu meysydd astudio, gan gynnwys cyhoeddi llenyddiaeth, golygu a phrawf-ddarllen, a chyfieithu creadigol.- Byddi’n elwa ar gefnogaeth gan ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol sy’n fardd ac yn awdur cyhoeddedig.- Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r adran hynaf o’i bath – a chanddi gysylltiadau a gweisg, cyrff a mudiadau creadigol ar hyd a lled y wlad.- Os wyt ti’n mwynhau dysgu ieithoedd, gelli ddewis dysgu iaith Geltaidd arall yn ogystal a’r Gymraeg, sef Llydaweg, Gwyddeleg neu Aeleg yr Alban.- Bydd profiadau llenyddol cyhoeddus yn chwarae rhan bwysig yn y radd hon hefyd ac yn llwyfannau bywiog i weithgareddau’r cwrs, ee Cicio’r Bar, sef digwyddiad llenyddol chwarterol yng Nghanolfan y Celfyddydau, y Noson Llên a Chan flynyddol, a chylchgrawn llenyddol Y Ddraig.- Mae gan yr Adran gysylltiadau cryf a chyhoeddwyr a sefydliadau llenyddol lleol ac o’r herwydd mae’n rhan o gymuned greadigol eang a bywiog.- Bydd cyfle iti ymgymryd a phrofiad gwaith perthnasol.- Byddi’n gallu manteisio ar agosrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i hadnoddau gwych.- Bydd y cwrs hwn yn sylfaen gadarn i yrfa ym maes ysgrifennu creadigol a chyhoeddi.Mae ein modiwlau craidd yn cyflwyno ystod eang o sgiliau hanfodol: dealltwriaeth o wahanol ffurfiau llenyddol sylfaenol a’r gallu i’w harfer, ymateb yn hunanfeirniadol, ysgrifennu Cymraeg cywir mewn gwahanol gyweiriau, dealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt ac, yn bennaf oll, y gallu i ysgrifennu’n gryno ac yn fwriadus. Byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth eang o wahanol fodiwlau dewisol.Mae tri llwybr ar gael: 1 Llwybr iaith gyntaf gyda lefel A; 2 Llwybr ail iaith; 3 Llwybr iaith gyntaf heb lefel ADyma rai o’r modiwlau a gynigir ar y cwrs hwn:Y flwyddyn 1af - Craidd: Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol; Sgiliau Astudio Iaith a Llên; Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar (iaith gyntaf); Ysgrifennu Cymraeg Graenus (ail iaith ac iaith gyntaf heb Lefel A) - Dewisol: Beirdd a Llenorion o 1900 Hyd Heddiw; Themau a Ffigyrau Llên c.550–1900; Cymru a’r Celtiaid; Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad; Llydaweg: CyflwyniadRhai o fodiwlau Craidd yr 2ail a’r 3edd flwyddyn: Gweithdai Ysgrifennu Creadigol; Gloywi Iaith; Y Golygydd a’r Diwydiant Cyhoeddi; Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol; a'r modiwlau dewisol: Y Gymraeg yn y gweithle; Y Gynghanedd: Astudiaethau Trosi ac Addasu; Y Cyfieithydd a’r Sector Cyfieithu; Testunau bob lliw: darllen testunau Cymraeg LHDT+; Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif 1979–; Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar; Rhyddiaith y Dadeni; Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr; Pedair Cainc y Mabinogi; Traddodiad Benywaidd? Merched a Barddoniaeth yng Nghymru 1400–1800; Traethawd Estynedig; Cymraeg Ddoe a Heddiw: cyflwyniad i ieithyddiaeth.**Sut bydda i’n cael fy addysgu?** Yn y flwyddyn gyntaf, byddi’n datblygu seiliau cadarn ar gyfer meithrin sgiliau ysgrifennu, a byddi’n adeiladu ar hynny yn yr ail a’r drydedd flwyddyn drwy weithio’n fwy annibynnol o dan gyfarwyddyd. Erbyn y drydedd flwyddyn, bydd modd iti arbenigo ar un neu fwy o ffurfiau drwy weithio’n fwy annibynnol yn y modiwl Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol. Cefnogir y llwybr hwnnw drwy gydol y cwrs gradd gan fodiwlau craidd a dewisol sy’n rhoi sail ieithyddol a llenyddol gadarn iti gyflawni’r gwaith. **Sut bydda i’n cael fy asesu?** Byddi’n cael dy asesu ar sail arholiadau, profion ac ymarferion iaith, gwaith cwrs, gwaith prosiect, traetha
所屬院系
進入哪個院系學習? Welsh/Adran y Gymraeg
中國學生入學要求
課程信息
學制:全日制(3 年)
學費:£13,600.00 (¥ 121,685) /年
開學時間:2022九月27日
申請截止日期:
留學地點:Main Site (Aberystwyth)Penglais Campus,Penglais Road,Aberystwyth,Ceredigion,SY23 3DD, Wales