- 專業(yè)概況
- 所屬院系
- 中國學(xué)生入學(xué)要求
- 課程信息
專業(yè)概況
在這里學(xué)什么? Mae hon yn radd amlddisgyblaethol i rai sydd a diddordeb mewn gweithio a phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa.Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol o’r Ysgol Addysg, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio a phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud a bywydau plant.Diffinnir Plentyndod fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod:Y Plentyn a’i (d)datblygiadY Plentyn a chymdeithasY Plentyn a byd addysgBydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth i wneud ymchwil i faterion yn ymwneud a phlentyndod.Nod y radd Astudiaethau Plentyndod yw diwallu’r angen presennol am arbenigwyr gyda chymwysterau da a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Yn y rhaglen ceir cyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd a dimensiwn ymarferol a gweithredol a fydd yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol a all ymdopi a sialensiau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.Yn ystod y radd ceir cyfleoedd bob blwyddyn i fynd ar leoliadau i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol.Elfen allweddol o’r rhaglen yw’r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol, a fydd yn cyfoethogi’r hyn mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfle i wirfoddoli a gwneud gwaith gyda phlant o gymunedau difreintiedig yn Romania ac i ymweld a Krakow yng ngwlad Pwyl a chydag arddangosfeydd mewn amgueddfeydd yn Lerpwl.
所屬院系
進(jìn)入哪個(gè)院系學(xué)習(xí)? School of Education and Human Development
中國學(xué)生入學(xué)要求
為來自中國的學(xué)生設(shè)計(jì) English Literature or English Language
課程信息
學(xué)制:全日制(3 年)
學(xué)費(fèi):
開學(xué)時(shí)間:2022九月27日
申請截止日期:
留學(xué)地點(diǎn):Main SiteBangor University,Bangor, Gwynedd,LL57 2DG, Wales