- 專業(yè)概況
- 所屬院系
- 中國學生入學要求
- 課程信息
專業(yè)概況
在這里學什么? Mae Astudiaethau Plentyndod yn addas ar gyfer rhai sydd a diddordeb mewn gweithio a phlant a phobl ifanc ond nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr gyrfa. Byddwch yn astudio modiwlau arloesol, a arweinir gan staff profiadol, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio a phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud a bywydau plant. Diffinnir ‘Plentyndod’ fel bywyd plentyn o’i flynyddoedd cynnar i flynyddoedd yr arddegau, ac mae cynnwys y rhaglen yn canolbwyntio ar dair prif thema Plentyndod:Y Plentyn a’i (d)datblygiad;Y Plentyn a chymdeithas;Y Plentyn a byd addysg.Bydd y rhaglen drwyddi draw yn hyrwyddo sgiliau astudio a dealltwriaeth ar gyfer gwneud ymchwil i faterion yn ymwneud a phlentyndod.Mae agwedd Cymdeithaseg y cwrs yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau a’i gilydd. Mae’r cwrs yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill?Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun.
所屬院系
進入哪個院系學習? School of Education and Human Development
中國學生入學要求
為來自中國的學生設計 English Literature or English Language
課程信息
學制:全日制(3 年)
學費:
開學時間:2022九月27日
申請截止日期:
留學地點:Main SiteBangor University,Bangor, Gwynedd,LL57 2DG, Wales