- 專(zhuān)業(yè)概況
- 所屬院系
- 中國(guó)學(xué)生入學(xué)要求
- 課程信息
專(zhuān)業(yè)概況
在這里學(xué)什么? Trwy gyfuno Cymraeg a Ffrangeg, byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth y gellir eu defnyddio mewn sawl maes. Bydd y rhain hefyd o les yn y byd gwaith byd-eang ac yn helpu agor y drysau i amrywiaeth o yrfaoedd posibl.Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd a dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal a chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.Mae Ffrainc yn ffigwr pwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Mae Ffrangeg yn un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd, ac mae hi’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang. Rydym ni’n cynnig Ffrangeg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol. Yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal a'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.Bydd eich dealltwriaeth o’r Ffrangeg yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith. Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu ymchwilio i sawl agwedd ar wlad. Yng Nghaerdydd, rydym ni’n anelu at gynnig cwrs gwirioneddol eang gan gynnwys modiwlau dewisol mewn ffilm, llenyddiaeth, hanes celf, gwleidyddiaeth a hanes.Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig a chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.Ar ?l cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal a dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig a Ffrengig.Nodweddion nodedigCymraeg? y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle? modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith? ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal a chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa? y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa? y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol? y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil? y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolynFFRANGEG? modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, ichi fireinio rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol? addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n eich galluogi i ymgysylltu a syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol astudiaethau Ffrangeg? llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddyn Ffrangeg Safon Uwch? y cyfle i dreu
所屬院系
進(jìn)入哪個(gè)院系學(xué)習(xí)? School of Welsh
中國(guó)學(xué)生入學(xué)要求
為來(lái)自中國(guó)的學(xué)生設(shè)計(jì) Complete the Senior Secondary School Graduation Certificate with a minimum of 85% overall (year 11 and year 12) - including 85% in relevant required subjects. IELTS 6.5 overall with a minimum of 5.5 in each subskill.
課程信息
學(xué)制:全日制(4 年)
學(xué)費(fèi):£17,450.00 (¥ 156,132) /年
開(kāi)學(xué)時(shí)間:2022九月27日
申請(qǐng)截止日期:
留學(xué)地點(diǎn):Main Site - Cardiff30-36 Newport Road,Cardiff,CF24 0DE, Wales